Written and translated by Cia Phillips
Pleidleisiau yn cau yn Etholiad UM 2023!
A dyna ni, mae’r polau bellach wedi cau ar gyfer etholiadau UM Aberystwyth 2023. Da iawn i bawb a bleidleisiodd, rydych wedi cymryd rhan mewn democratiaeth. Da iawn hefyd i bawb a wnaeth sefyll yn yr etholiad, nid yw’n hawdd rhoi eich enw ymlaen ar gyfer etholiad, rydych chi i gyd yn enillwyr am roi eich hun allan yna. Fel rhywun sy'n astudio gwleidyddiaeth fy hoff amser mewn etholiad yw'r ymgyrch. Amser i'r ymgeiswyr osod y stondin i'r pleidleiswyr ynghylch pam y dylent bleidleisio drostynt.
Weithiau mae gan wleidyddion rai ffyrdd creadigol o gael brwdfrydedd i'w hymgyrch ac nid yw ymgeiswyr etholiad UM wedi siomi chwaith. O Wylanad, baneri a TikTok's dewch i ni edrych yn ôl ar yr ymgyrchoedd gorau yn yr etholiad hwn.
Hector Duncan - Ymgeisydd Llywydd
Lle gwell i ddechrau na’r dyn ddaeth â ‘Hec yeah’ i’r byd. Mae Hector wedi defnyddio cyfryngau cymdeithasol er ei fantais i ledaenu ei neges. Efallai mai un o fy hoff posts yn ei ymgyrch fyddai ei gân ymgyrch epig, This is Hector, parodi o This is Love gan Will.i.am ft Eva Simons. Wedi’i hoffi gan dros 270 ar Instagram, gwelwn Hector yn dangos ei sgiliau dawnsio a chanu (os ydych chi wedi bod i Harley’s rydych chi wedi’i weld yn bendant), wedi’i ffilmio ar draws y campws a’r dref gan Oskar Brennan. Mewn cân egni uchel, mewn tiwn a angerdd mae Hector yn dweud wrthym ei dri phwynt o'i ymgyrch. Byddwn yn bendant yn argymell ichi gweld.
Clare Foley - Ymgeisydd Materion Academaidd
Bob dydd roedd Clare yn cyflwyno gair Cymraeg newydd i’w dilynwyr ar ei chyfryngau cymdeithasol. Un o'i pholisiau hi oedd y byddai'n ei gwneud hi'n haws dysgu Cymraeg pe bai'n cael ei hethol. Mae’r ddarpariaeth dysgu Cymraeg wedi bod yn bolisi ymgyrchu allweddol yn yr etholiad hwn, ac mae hynny’n rhywbeth y mae angen ei ganmol. Mae Aberystwyth yn dref Gymraeg yng Nghymru a’i Phrifysgol yn sefydliad dwyieithog, gyda hyrwyddo’r Gymraeg yn biler allweddol yn ei nodau. Felly mae angen i’r UM gefnogi'r Gymraeg a'i helpu i dyfu hyd yn oed ymhellach.
Tom Mumford - Ymgeisydd Llywydd
Mae Tom hefyd wedi defnyddio cyfryngau cymdeithasol i'w fantais, gan ei ddefnyddio i hyrwyddo ei hun a'i bolisïau. Mae wedi gwneud yn siŵr ei fod yn esbonio ei bolisïau, mae wedi gweithio gyda'r UCU ac wedi bod yn bresennol mewn llinellau piced a chyfarfodydd mewn undod. Mae llawer o'i bolisïau yn bethau sydd eu hangen ar fyfyrwyr fel bysiau gwennol cymorthdaledig o'r dref i'r Brifysgol, mwy o ddosbarthiadau Cymraeg a chymorth ar gyfer yr argyfwng costau byw. ‘Gwnewch yr UM yn wych eto’ oedd ei slogan ac roedd ganddo hefyd faner fel ffordd o hysbysebu ei ymgyrch.
Tiffany McWilliams - Ymgeisydd Cyfleoedd
Mae slogan Tiffany ar gyfer cychwynwyr yn un hyfryd ‘Cewch epiphany dros Tiffany.’ Mae Tiffany wedi gwneud ymgyrch lliwgar iawn ar Instagram sydd nid yn unig yn edrych yn dda ond yn llawn gwybodaeth ac yn ddwyieithog. Yn ogystal, mae Tiffany wedi gwneud yn siŵr ei fod yn ymwneud ym mhopeth a wneir gan fyfyrwyr o rannu gwybodaeth am wahanol ddigwyddiadau gan glybiau neu gymdeithasau i gymryd rhan yn Superteams hefyd. Yn ogystal, pan mae hi'n gwneud fideo mae hi'n ei wneud mewn ffordd sy'n un i un iawn gan ei bod hi'n cerdded wrth ffilmio fel bod ni fel y gynulleidfa yn rhan o alwad fideo gyda hi.
Bayanda Vundamina - Ymgeisydd Llywydd
Mae Bayanda wedi gwneud rhai TikToks trawiadol iawn sydd wedi bod yn boblogaidd iawn ar ei dudalen ymgyrchu ar Instagram. Un o fy ffefrynnau yw llun o Bayanda ar wahanol eitemau yn y gân I Wanna Be Yours gan yr Arctic Monkeys, mae hyn yn cynnwys Bayanda yn sugnwr llwch, yn anadlu ein llwch. Neis. Un da hefyd yw ei fod yn derbyn ein cynnig masnach os byddwn yn pleidleisio ac yn gyfnewid am cael ‘cymorth iechyd meddwl ychwanegol, cymorth i Ddioddefwyr SA, cronfa cadarnhau rhyw, cymorth chwaraeon a chymdeithas a hefyd brofiad diwylliannol i fyfyrwyr.’
Anna Simpkins - Ymgeisydd Materion Academaidd
Mae Anna Simpkins hefyd wedi gwneud fideo TikTok lle mae'n esbonio ei phwyntiau ymgyrchu ar ffurf syml sy'n ddefnyddiol iawn wrth ddewis pwy i bleidleisio drosto. Ac efallai mai un o’r eiliadau ymgyrchu mwyaf creadigol yw bwrdd ymgyrchu Anna sydd wedi’i greu â llaw gyda lluniau hyfryd wedi’u tynnu â llaw. Creodd Anna hefyd grysau-t sy’n dwyn y neges ‘Pleidleisiwch Anna dros Faterion Academaidd.’
Cawn weld beth fydd canlyniadau'r wythnosau o ymgyrchu a phwy fydd yn cael rhedeg yr UM am y flwyddyn academaidd nesaf. Hoffwn ddymuno pob lwc i’r holl ymgeiswyr ar gyfer y dyfodol, a beth bynnag sy’n digwydd rydych chi wedi gwneud rhywbeth gwych wrth sefyll oherwydd hebddoch, ni fyddai cystadleuaeth a dim democratiaeth. Mae'n anhygoel gweld cymaint o bobl yn sefyll ar gyfer pob rôl a gobeithio y bydd hyn yn parhau a hyd yn oed yn cryfhau yn y dyfodol.
Polls close in the SU election 2023
And that’s it, the polls have now closed for the Aberystwyth SU elections 2023. Well done to everyone who voted, you have participated in democracy. Also well done to everyone who stood, it’s not easy to put your name forward for an election, you're all winners for putting yourself out there. As someone who studies politics my favourite time in an election is the campaign. A time for the candidates to set the stall out to the voters on why they should vote for them.
Sometimes politicians have some creative ways to get enthusiasm to their campaign and the SU election candidates have also not disappointed. From Seagulls, flags and TikTok’s I look back at the best of campaigns in this election.
Hector Duncan - President Candidate
Where better to start than the man that brought ‘Hec yeah’ into the world. Hector has used social media to his advantage to get his message out. Maybe one of my favourite posts of his campaign would be his epic campaign song, This is Hector, a parody of This is Love by Will.i.am ft. Eva Simons. Liked by over 270 on Instagram, we see Hector showing his dancing and singing skills (if you’ve been to Harley’s you’ve most definitely seen), filmed across campus and town by Oskar Brennan. In a high energy, in-tune and with passion song Hector tells us his three points of his campaign. I’d definitely recommend you having a watch.
Clare Foley - Academic Affairs Candidate
Everyday Clare presented her followers with a new Welsh word on her social media. It was one of her policies, that if elected she would make it easier to learn Welsh. The Welsh learning provision has been a key campaign policy in this election, and that is something that needs to be praised. Aberystwyth is a Welsh language town in Wales and its University is a bilingual institution, with the promotion of the Welsh language a key pillar in its goals. Therefore the SU needs to support the Welsh language and help it grow even further.
Tom Mumford - President Candidate
Tom has also used social media to his advantage, using it to promote himself and his policies. He’s made sure to explain his policies, he’s worked with the UCU and has been in attendance of picket lines and meetings in solidarity. Many of his policies are things that students need like subsidised shuttle buses from the town to the University, more Welsh classes and support for the cost of living crisis. ‘Make the SU great again’ was his slogan and he also had a flag as a way of advertising his campaign.
Tiffany McWilliams - Opportunity Candidate
Tiffany’s slogan for starters is a lovely one ‘Have the epiphany Vote for Tiffany.’ Tiffany has made very colourful campaign designs on Instagram that not only look good but are full of information and bilingual. In addition, Tiffany has made sure to get stuck in all things student opps from sharing information about different events by clubs or society to also participating in Superteams. In addition when she does a video she makes it in a way that’s very one to one as she’s walking while filming like we as the audience are just part of a video call with her.
Bayanda Vundamina - President Candidate
Bayanda has made some very eye-catching TikToks which have been very popular on his campaign page on Instagram. One of my favourites is a picture of Bayanda on different items in the song I Wanna Be Yours by the Arctic Monkeys, this includes Bayanda being a Vacuum cleaner for us, breathing in our dust. Nice. An also good one is where he will accept our trade offer if we vote and in return we will get ‘extra mental health support, support for SA Victims, Gender affirmation fund, Sports and society support and also a cultural student experience.’
Anna Simpkins- Academic Affairs Candidate
Anna Simpkins has also made a TikTok video where in a simple form she explains her campaign points which is very helpful while choosing who to vote for. And maybe one of the most creative campaign moments is Anna’s campaign board that has been hand created with lovely hand drawn pictures. Anna also created t-shirts that bear the message ‘Vote Anna for Academic Affairs.’
We will see what the results of the weeks of campaigning will be and who will get to run the SU for the next academic year. I would like to wish all the candidates the best of luck for the future, and whatever happens you’ve done something amazing in just standing as without you there wouldn't be competition and no democracy. It’s just amazing seeing so many people standing for every role and I hope this continues and even strengthens in the future.
