Mouth of the Ystwyth

Student Newspaper
Your SU Well-Being Officer Candidates
Vote by 3pm on Friday the 17th of March.

Written and translated by Cai Phillips 

Scroll for Welsh 

Mae’n hanner ffordd drwy gyfnod pleidleisio yn etholiad Undeb Myfyrwyr Aberystwyth 2023. Yn yr erthygl yma byddwn yn canolbwyntio ar yr ymgeiswyr ar gyfer rôl Swyddog Llesiant Myfyrwyr. Mae’r Swyddog yma yn “llais lles a rhyddid myfyrwyr. Maent yn sicrhau cynrychiolaeth ar faterion sy’n ymwneud â llesiant myfyrwyr gan gynnwys cymorth i fyfyrwyr, lles, cydraddoldeb ac amrywiaeth.’

‘Mae’r rôl yn ymdrin ag ystod eang o faterion, gan gynnwys llety a chymorth ariannol, yn ogystal ag iechyd meddwl a chorfforol. Maent hefyd yn  helpu i gydlynu amryw o ddigwyddiadau, gweithgareddau ac ymgyrchoedd a fwriadwyd i sicrhau bod myfyrwyr yn cael cymorth yn ystod eu hastudiaethau wrth wella’u llesiant.” Mae’r rhain wedi cynnwys digwyddiadau ar gyfer Mis Hanes Pobl Dduon a Mis Hanes LHDT+.

Cameron Curry sydd wedi dal y rôl eleni. Bydd Cameron yn sefyll eto yn ogystal â Dylan Cashon, Helen Cooper ac Aimé Tonkin. Gofynnodd Mouth of the Ystwyth yr un cwestiynau i’r holl ymgeiswyr ag yn ein herthygl Llywydd ond ni chawsom ymateb gan bawb. Rydym wedi defnyddio’r datganiadau ar wefannau UM fel sail i unrhyw un nad oedd wedi ymateb mewn pryd, ond cofiwch fod y cwestiynau ychydig yn wahanol a bod y nifer geiriau a ganiateir yn fwy. Gallwch weld yr holl ymatebion gan ymgeiswyr i’r UM ar eu gwefan. 

Dylan Cashon

Pa nodweddion personol fyddech chi'n eu cyfrannu at y rôl?

Dwi’n berson cyfeillgar a hawdd mynd ato sy’n gwneud eu gorau glas i greu amgylchedd da i fyfyrwyr. Gellir gweld hyn gyda fy ngwaith presennol fel arweinydd cyfoedion a chynrychiolydd academaidd, yn ceisio fy ngorau i helpu fy nghyfoedion i deimlo eu bod yn cael eu cefnogi ym mhob agwedd ar fywyd prifysgol. Mae hyn i’w weld hefyd yn fy ngwaith fel cynrychiolydd academaidd, nid oes arnaf ofn cymryd camau uniongyrchol ac ymarferol pan godir mater cyn gynted â phosibl. Ar ben hynny, mae fy mhrofiad o wneud hyn wedi dysgu’r dulliau cywir a phriodol y gallaf eu defnyddio i fynd ati i wneud newidiadau er budd lles myfyrwyr.

Beth yw'r 3 mater uchaf sy'n effeithio ar fyfyrwyr y credwch y dylai'r UM weithio arnynt?

Ar hyn o bryd, mae'r streiciau'n effeithio'n fawr ar lawer o fyfyrwyr oherwydd y straen o beidio â gallu dysgu gwybodaeth allweddol am gyrsiau a allai effeithio ar eu graddau, tra'n parhau i gefnogi eu darlithwyr yn ystod y cyfnod hwn. Mater mawr sy’n bersonol i mi, yw materion ynghylch hunaniaeth myfyrwyr, a’r frwydr o newid eich enw yn systemau’r brifysgol, hyd yn oed gyda gweithred newid enw. Mae hwn yn broblem gan y gall arwain at bobl drawsryweddol a LDHT+ yn y brifysgol yn teimlo nad ydynt yn cael digon o gefnogaeth gan y brifysgol. Yn debyg i’r pwynt olaf, mae llawer o feysydd cyffredinol o fewn y brifysgol yn brin o wybodaeth i’r myfyrwyr, sy’n eu gadael yn ddryslyd ac o dan straen ynghylch beth i’w wneud mewn llawer o senarios, yn ansicr sut i gael gwybodaeth hanfodol, neu’n orbryderus/dan straen i mynd at aelodau staff am y materion hyn.

Cameron Curry

Pa nodweddion personol fyddech chi'n eu cyfrannu at y rôl?

Y prif rinweddau y byddaf yn eu cyflwyno i'r rôl hon yw angerdd a brwdfrydedd am y swydd. Dwi hefyd yn greadigol sy'n helpu gyda fy sgiliau ymgyrchu, gan ganiatáu i mi feddwl am, cynllunio a threfnu digwyddiadau yn hawdd. Mae fy angerdd yn fy ngalluogi i ysgogi eraill ac dwi'n gobeithio gallu defnyddio hyn i ysgogi'r swyddogion newydd sy'n ymuno â'r tîm eleni. Dwi hefyd yn agored ac yn onest, yn cymryd adborth fel y daw i mi allu gwella fy hun a fy nealltwriaeth o'r byd.

Beth yw'r 3 mater uchaf sy'n effeithio ar fyfyrwyr y credwch y dylai'r UM weithio arnynt?

Ar hyn o bryd, dwi’n meddwl mai’r tri mater pennaf sy’n effeithio ar fyfyrwyr yw’r argyfwng costau byw, iechyd meddwl, ac ofn y dyfodol. Mae’r argyfwng costau byw yn effeithio’n aruthrol ar fyfyrwyr: gyda phrisiau llety myfyrwyr a phreifat, bwyd, a gwres yn cynyddu’n aruthrol a benthyciadau myfyrwyr yn aros yr un fath, gan greu pryder a straen. Ers y pandemig, mae ymwybyddiaeth iechyd meddwl wedi cynyddu, ond mae diffyg ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o hyd ynghylch sut mae iechyd meddwl myfyrwyr yn cael ei effeithio, yn enwedig gan ofn y dyfodol. Mae myfyrwyr yn aml yn dod yn fwy ymwybodol yn wleidyddol yn y brifysgol ac, ar hyn o bryd, mae llawer iawn o bethau'n digwydd yn y byd fel newid yn yr hinsawdd, costau byw a’r argyfwng tai, a'r frwydr dros hawliau dynol, gan achosi straen, pryder, a meddwl negyddol, hyd yn oed iselder. Mae'r rhain i gyd yn bethau yr hoffwn ymchwilio iddynt ymhellach.

Helen Cooper

Beth yw tri gair i disgrifio chi?

Angerddol, ‘driven’ a barnedig

Sut fyddech chi’n arweinydd da?

Rwy’n credu’n gryf bod fy nghyfnod fel llywydd y gymdeithas ffeministaidd ac aelod o rygbi merched wedi fy mharatoi i weithio’n dda o fewn tîm i wella ein hamgylchedd. Mae arweinyddiaeth i mi yn ymwneud a’r gallu i siarad yn agored a bondio grŵp trwy nod cyffredin a gwn fod fy syniadau yn galluogi newid cadarnhaol ar draws y campws oherwydd fy mod yn llawn barn ac yn ddi-flewyn-ar-dafod. Yr unig ffordd y gellir profi hynny yw fy modlonrwydd i arwain gorymdeithiau drwodd, arwain grwpiau undod a rhoi fy hun allan yno er gwaethaf yr adlach a all ddod.

Pam dylid pobl pleidleisio amdanoch chi?

Rwy'n wir yn teimlo mai fy mholisïau yw'r math o newid y mae angen i ni ei weld yn y brifysgol. Pwy bynnag sy’n cael ei bleidleisio, mae’r math o newid cymdeithasol y mae angen inni ei weld yn hollbwysig i greu corff myfyrwyr unedig a dyna’r hyn yr ydym i gyd am ei weld yn y pen draw. Rwy'n teimlo fy mod yn arweinydd da ac yn wrandäwr gweithgar; mae angen i'r gefnogaeth ehangach y mae angen i ni fod yn ei rhoi i fyfyrwyr wella ac mae'n dechrau gyda phleidleisio am tîm sy'n wirioneddol am ofalu. Rwyf am i fyfyrwyr deimlo eu bod yn cael eu clywed a’u lleisiau’n cael eu hadlewyrchu yng ngweithredoedd UM, sef yr union beth rwy’n ymdrechu amdano.

Aimé Tonkin

Beth yw tri gair i disgrifio chi?

Cyfeillgar, gweithgar a dibynadwy.

Sut fyddech chi’n arweinydd da?

Ar ôl gweithio mewn swyddi arweinyddiaeth o’r blaen rwy’n gwerthfawrogi’r angen am gyfathrebu a dealltwriaeth, a dyna pam rwyf am wneud y rhain yn fy mhwyntiau ffocws os caf fy ethol yn Swyddog Llesiant. Ar ôl bod ar bwyllgor Harriers am y ddwy flynedd ddiwethaf rwy'n gwybod fy mod yn gweithio'n dda dan bwysau. Bydd fy sylw i fanylion a pharodrwydd i ddysgu yn fy ngalluogi i wneud fy ngorau fel swyddog gan na fyddaf yn cymryd dim yn ganiataol nac yn gorffwys ar fy rhwyfau, yn hytrach byddaf yn canolbwyntio ar ddarparu'r cymorth gorau y gallaf i fyfyrwyr yma yn Aber. Credaf y bydd y rhinweddau hyn yn caniatáu imi fod yn arweinydd da.

Pam dylid pobl pleidleisio amdanoch chi?

Rwyf wedi cael profiad o weithio o fewn yr UM felly rwy'n deall y ffordd y mae'n gweithio a sut i weithio'n dda oddi mewn iddo. Byddaf yn canolbwyntio ar agor cyfathrebu ehangach rhwng yr UM, y brifysgol a phoblogaeth y myfyrwyr a sicrhau fy mod i ochr yn ochr â'r tîm swyddogion ehangach yma i chi. Rwy’n addo canolbwyntio ar anghenion y myfyrwyr, a sicrhau bod yr UM yn cynrychioli’r corff myfyrwyr yma yn Aber. Yn gyffredinol byddaf yn gwneud fy ngorau i sicrhau bod profiad pawb ym Mhrifysgol Aber y gorau y gall fod!

Mae gennych chi tan 3yp Dydd Gwener i fwrw eich pleidlais ar y swyddog lles yn ogystal â’r swyddogion eraill!

English 


It is half way through the Aberystwyth Students Union Election 2023. In this article we will look at the candidates for the role of Wellbeing Officer. This Officer ‘is the voice for student wellbeing and liberation. They ensure representation on matters relating to student wellbeing including student support, welfare, equality and diversity.’ 

‘The role covers a wide range of topics including accommodation, financial support and both physical and mental health. They also help coordinate a range of events, activities and campaigns designed to ensure students are supported during their studies while improving their wellbeing.’ These have included events for Black History Month and LGBTQ+ History Month.

The role has been held by Cameron Curry this year. Cameron will be standing again in addition to Dylan Cashon, Helen Cooper and Aimé Tonkin. The Mouth of the Ystwyth asked all the candidates the same questions as in our President article but we didn’t get a response from everyone. We have used the statements on the SU websites as a basis for anyone who didn’t respond on time, although please be aware that the questions are a bit different and the word count allowed is bigger. You can see all responses to the SU on their website. 

Dylan Cashon

What personal qualities will you bring to the role?

I am a very friendly and easily approachable person that tries their best to create a good environment for students. This can be seen with my current work as both a peer guide and academic rep, trying my best to help my peers feel supported within all aspects of university life. Also reflected in my work as an academic rep, I am not afraid to take direct and practical action when an issue is raised as quickly as possible. Furthermore, my experience in doing this has taught me the correct and appropriate methods I can use to go about enacting changes for the benefit of student wellbeing.

What are the top 3 issues affecting students that you think the SU should work on?

Currently, the strikes are majorly affecting many student's as the stress of not being able to learn key information on courses that could potentially affect their grades, whilst still supporting their lecturers during this time. A big issue that is personal to me, is issues around student identity, and the struggle of changing your name in the university systems, even with a deed poll. This is an issue as it can lead to transgender and lgbt+ people in the university feeling as if they are not getting enough support from the university. Similar to the last point, lots of general areas within the university are lacking in information for the students, leaving them confused and stressed about what to do in lots of scenarios, being unsure of how to get critical information, or too anxious/ stressed to approach members of staff about these issues.

Cameron Curry

What personal qualities will you bring to the role?

The main qualities I will bring to this role are passion and enthusiasm for the job. I am also creative which helps with my campaigning skills, allowing me to come up with, plan and organise events easily. My passion allows me to motivate others and I hope to be able to use this to motivate the new officers joining the team this year. I am also open and honest, taking feedback in my stride so I can improve both myself and my understanding of the world.

What are the top 3 issues affecting students that you think the SU should work on?

Currently, I think the top three issues affecting students are the cost of living crisis, mental health, and fear of the future. The cost of living crisis impacts students enormously: with the prices of student and private accommodation, food, and heating increasing dramatically and student loans remaining the same, creating anxiety and stress. Since the pandemic, mental health awareness has increased, but there is still a lack of awareness and understanding about how student mental health is impacted, especially by the fear of the future. Students often become more politically aware at university and, currently, there are an overwhelming amount of things happening in the world like climate change, the cost of living and housing crisis, and the battle for human rights, causing stress, anxiety, and negative thinking, even depression. These are all things I would like to research further into.

Helen Cooper 

How would you describe yourself in three words?

Passionate, driven and opinionated.

What would make you a good leader?

I strongly believe that my time as president of the feminist society and a member of women's rugby has prepared me to work well within a team to better our environment. Leadership to me is about being able to speak openly and bond a group through a common goal and I know that my ideas enable positive change across campus because I am opinionated and outspoken. That can only be proven by my willingness to lead marches through, head solidarity groups and put myself out there despite the backlash that may receive.

Why should people vote for you?

I truly feel my policies are the kind of change we need to see within the university. Regardless of who is voted, the kind of social change we need to see is crucial to creating a unified student body and that is what we all ultimately want to see. I feel I am a good leader and an active listener; the wider support we need to be giving students needs to get better and it starts with voting in a team that truly cares. I want students to feel heard and their voices reflected in the acts of the SU which is exactly what I am striving for. 

Aimé Tonkin

How would you describe yourself in three words?

Friendly, hard-working, reliable.

What would make you a good leader?

Having worked in leadership positions before I appreciate the need for communication and understanding, which is why I want to make these my focus points if I am elected as the Well-being Officer. Having been on the Harriers committee for the past two years I know I work well under pressure. My attention to detail and willingness to learn will allow me to do my best as an officer as I will not take anything for granted or rest on my laurels, instead I will focus on providing the best help I can to students here in Aber. I believe that these qualities will allow me to be a good leader.

Why should people vote for you?

I have had experience working within the SU so I understand the way it works and how to work well within it. I will focus on opening wider communication between the SU, university and student population and ensure that myself alongside the wider officer team are here for you. I promise to focus on the needs of the students, and ensure that the SU represents the student body here in Aber. Overall I will do my best to make sure everyone's experience at Aber University is the best it can be!

You have until 3pm on Friday to vote for the Wellbeing officer in addition to all the other officers also!